Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ddau o rheilffyrdd treftadaeth fwyaf
poblogaidd y DU â lleolwyd ynghanol prydferthwch Eryri. Spooner’s yw ein prif allfa
arlwyo, wedi’i leoli yng Ngorsaf Harbwr yn Portmadog, sydd yn darparu lefel
uchel o wasanaeth drwy gydol y diwrnod.
Mae gennym swydd agored ar gael fel Goruchwyliwr Bwyd a Diod yng Nghaffi,
Bar a Gril Spooners. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio
yng nghaffi a bar yr allfa arlwyo brysur hon; gan gynhyrchu elw uchel a gwella
safonau gwasanaeth cwsmeriaid. Ein nod yw darparu gwasanaeth a phrofiad
eithriadol sy’n rhagori ar ddisgwyliadau ein cwsmeriaid. Yn y rôl hon bydd gofyn i chi oruchwylio tîm bach o Gynorthwywyr Bwyd a
Diod ac arwain drwy esiampl, tra’n gweithio ar gownter y caffi a gwasanaethu
cwsmeriaid wrth fyrddau yn ôl yr angen. Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o weithio mewn amgylchedd arlwyo /
lletygarwch. Mae hon yn swydd blaen tŷ felly mae'n rhaid bod gennych sgiliau
cyfathrebu da a gwarediad cyfeillgar.
Sgiliau Craidd:
Bydd yr ymeisydd llwyddianus yn gyfforddus tra’n gweithio mewn amgylchedd
prysur a chyflym. Bydd ofyn i ymgeiswyr fod yn hyblyg ac yn
gallu gweithio sifftiau yn ystod y diwrnod, gyda’r nos ac ar bewythnosau. Bydd
oriau gwaith yn amrywio hyd at 40 awr yr wythnos, efallai y bydd oriau rhan
amser a hyblyg ar gael i weddu'r ymgeisydd.
Swydd dymhorol yw hon yn gorffen diwedd Hydref 2022
gyda’r opsiwn i ymestyn os yw amgylchiadau'n caniatau.
Cyfradd y cyflog yw £10.00 i £10.50 yr awr yn ddibynnol ar brofiad.