Cynghorydd Galwadau Gwasanaeth Cwsmeriaid
2 x contract cyfnod penodol hyd at 31ain o Fawrth 2023, yn gweithio 35 awr yr wythnos
Oes gennych chi sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych, ac ydych chi’n gyfforddus gyda sgyrsiau bob dydd yn Gymraeg? Os felly, darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am y cyfle cyffrous hwn i ymuno â'n sefydliad blaengar gyda diwylliant cynhwysol, lle bydd gennych yr opsiwn ar gyfer gweithio hybrid.
Ein Sefydliad
Mae Tai Gogledd Cymru yn fenter gymdeithasol lwyddiannus sy’n darparu cartrefi a chyflenwi gwasanaethau i dros 2,700 o gartrefi ar draws Gogledd Cymru. Mae datblygu yn greiddiol i’n gweledigaethau yn y dyfodol, rydym wedi ymrwymo i dros 200 o gartrefi newydd o ansawdd erbyn 2023.
Er bod ein sefydliad yn tyfu’n gyflym, mae ein gweledigaeth a’n gwerthoedd bob amser wedi ymwneud â mwy na dim ond brics a morter. Rydym yn arweinydd yn y farchnad ranbarthol mewn darparu tai a gwasanaethau i bobl sy’n agored i niwed, ac mae ein tenantiaid wrth wraidd popeth a wnawn.
Mae ein tîm o tua 170 o unigolion yn golygu llawer i ni hefyd. Rydym yn falch o ddweud ein bod ni’n Fuddsoddwyr mewn Pobl Safon Aur, yn dyst i’n brwdfrydedd dros ofalu am ein cydweithwyr. Mae ein Strategaeth Pobl yn canolbwyntio ar greu amgylchedd lle mae ein pobl yn falch o weithio mewn lle maen nhw eisiau bod, yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial, rhoi eu gorau, a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad.
Y Rôl – Cynghorydd Galwadau Cwsmeriaid
Yn atebol i’r Arweinydd Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i gwsmeriaid yn bennaf dros y ffôn, ond hefyd trwy e-bost, llythyr neu ar-lein, gan sicrhau bod lefelau uchel o wasanaeth cwsmeriaid yn cael eu darparu bob amser. Bydd eich dyletswyddau’n cynnwys:
Y Pecyn
Ein Gofynion – Cynghorydd Galwadau Cwsmeriaid
Yma yn Tai Gogledd Cymru, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles defnyddwyr gwasanaeth. Mae'n rhaid i chi fod yn fodlon i'n sefydliad wneud datgeliad DBS sylfaenol.
Bydd y rhestr fer a chyfweliadau ar gyfer y rôl hon yn digwydd tra bydd yr hysbyseb yn fyw; bydd y swydd yn cael ei chau cyn gynted ag y penodir yr ymgeiswyr llwyddiannus. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl.
Drwy ddewis 'wneud cais', byddwch yn cael eich ailgyfeirio at gwefan Tai Gogledd Cymru, lle gallwch weld proffil llawn y rôl a gwneud cais ar-lein.