Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ddau o rheilffyrdd treftadaeth fwyaf
poblogaidd y DU â lleolwyd ynghanol prydferthwch Eryri. Spooner’s yw ein prif
allfa arlwyo, wedi’i leoli yng Ngorsaf yr Harbwr yn Porthmadog, sydd yn darparu
lefel uchel o wasanaeth drwy gydol y diwrnod.
Rydym yn
edrych am unigolion brwdfrydig sy’n fodlon gweithio’n galed i ymuno a’n tîm ymroddedig
o staff blaen tŷ sy’n gweithio yng Spooner’s. Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys
gwasanaethu cwsmeriaid wrth gownter y caffi neu wrth fwrdd, trin arian, glanhau
byrddau ac cynorthwyo gyda dyletswyddau y gegin. Efallai y gofynnir i ymgeiswyr
llwyddiannus hefyd weithio yn ein siop arlwyo fach newydd ar
Orsaf yr Harbwr neu yn Ystafell De Orsaf Tan y Bwlch, gan ddarparu amrywiaeth a
chyfle i ddatblygu eich sgiliau.Bydd profiad o weithio mewn caffi neu bwyty yn
fuddiol ond nid yn hanfodol, bydd hyfforddiant llawn yn cael eu ddarparu.
Sgiliau
Craidd:
Bydd yr
ymeisydd llwyddianus yn gyfforddus tra’n gweithio mewn amgylchedd prysur a
chyflym. Bydd ofyn i ymgeiswyr fod yn hyblyg ac yn gallu gweithio sifftiau yn
ystod y diwrnod, gyda’r nos ac ar bewythnosau. Bydd contract sero oriau yn cael
ei gynnig i ddechrau, bydd oriau gwaith yn amrywio, gyda chontractau amser
llawn, rhan amser ac achlysurol ar gael, a gallant fod yn hyblyg i weddu'r
ymgeisydd.