Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ddau o rheilffyrdd treftadaeth fwyaf poblogaidd y DU â lleolwyd ynghanol prydferthwch Eryri. Gorsaf yr Harbwr ym Mhorthmadog yw ein gorsaf brysuraf a chanolbwynt ein gweithrediadau.
Rydym yn chwilio am unigolion gweithgar, onest i ymuno â'n tîm ymroddedig o staff glanhau sy'n gweithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ag Eryri. Bydd y rôl hon yn bennaf yn cwmpasu gweithio sifftiau yng Ngorsaf yr Harbwr yn Porthmadog, fodd bynnag mae'n bosibl y bydd angen i lanhawyr weithio mewn gorsafoedd eraill ar sail rhyddhad. Yng Ngorsaf yr Harbwr y prif gyfrifoldebau bydd glanhau'r Caffi a'r Bar a phlatfformau a thoiledau'r orsaf. Yn yr amseroedd digynsail hyn, bydd gan ein staff glanhau gyfrifoldeb arbennig am sicrhau bod ein hadeiladau yn ddiogel o ran Covid ar gyfer staff a chwsmeriaid. Rhaid eich bod yn gallu gweithio'n lân ac yn daclus; yn ddelfrydol bydd gennych brofiad o lanhau masnachol, fodd bynnag gellir darparu hyfforddiant os oes angen.
Sgiliau Craidd:
Mi fuasai’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais yn ogystal â gwybodaeth o’r rheilffyrdd a’u teithwyr; a’r ardal leol.
Dylai ymgeiswyr fod yn hyblyg ac yn gallu gweithio sifftiau unrhyw ddiwrnod o'r wythnos. Bydd angen gweithio ar ben eich hun ar gyfer y swydd hon. Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr weithio mewn lleoliadau nad ydynt yn hawdd ei cyraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd angen cychwyn am 6yb neu ynghynt felly mae mynediad at gludiant preifat a thrwydded yrru llawn yn ddymunol.
Bydd contract sero oriau yn cael ei gynnig i ddechrau, bydd oriau gwaith yn amrywio a gallant fod yn hyblyg, i weddu'r ymgeisydd.
Swydd dymhorol yw hon i ddechrau cyn gynted â phosibl hyd at ddiwedd mis Hydref 2022. Cyfradd y cyflog yn cwrdd â'r Cyflog Byw Cenedlaethol. Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swydd hon yr hawl i weithio yn y DU.