Mae’r Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ddau o’r rheilffyrdd treftadaeth fwyaf poblogaidd y DU a’u lleolwyd ynghanol prydferthwch Eryri. Rydym yn gweithredu trenau bob dydd o ddiwedd mis Mawrth i ddiwedd mis Hydref.
Rydym yn chwilio am unigolion gweithgar, brwdfrydig i ymuno â'n tîm masnachol, yn gweithio yn ein Swyddfa Archebu Porthmadog. Swydd weinyddol yw hon yn bennaf, gyda dyletswyddau'n cynnwys cymryd archebion dros y ffôn, prosesu archebion ac ateb ymholiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn a thrwy e-bost. Byddai profiad o weithio mewn rôl debyg o fantais ond nid yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu, fodd bynnag rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â gweithio gyda systemau cyfrifiadurol ac e-bost.
Sgiliau Craidd:
Mi fuasai’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais yn ogystal â gwybodaeth o’r rheilffyrdd a’u teithwyr; a’r ardal leol.
Mae hon yn swydd dymhorol i gychwyn cyn gynted a sy’n bosib a bydd yn para tan ddiwedd mis Hydref 2022. Bydd contract sero oriau yn cael ei gynnig i ddechrau, bydd oriau gwaith yn amrywio i gynnwys sifftiau yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau a gall fod yn hyblyg i weddu'r ymgeisydd. Efallai y bydd swydd amser llawn ar gael ar gyfer tymor prysur yr Haf, o ddiwedd mis Mai i ganol mis Medi.
Cyfradd tâl yw £9.50 yr awr i rai 21 oed a throsodd, £7.50 yr awr i rai dan 21 oed. Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swyddi hyn yr hawl i weithio yn y DU.