Job has expired!
Job FWHRO20222W has expired and is no longer available.
Please click here to see a list of current jobs being advertised.
Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ddau o rheilffyrdd treftadaeth fwyaf
poblogaidd y DU a’u lleolwyd ynghanol prydferthwch Eryri. Rydym yn rhedeg
trenau yn ddyddiol rhwng ddiwedd fis Mawrth i ddiwedd fis Hydref.
Rydym yn
edrych am lanhawr cerbydau i weithio gyda'r tîm bach sy'n gofalu am ein
cerbydau ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn
ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau glanhau gan gynnwys glanhau cerbydau yn fewnol
ac yn allanol, a dyletswyddau glanhau cyffredinol gan gynnwys toiledau'r orsaf.
Bydd y swydd hon wedi'i lleoli yng ngorsaf Dinas, ger Caernarfon, ond efallai y
bydd gofyn i chi weithio mewn lleoliadau eraill ar adegau. Rhaid i chi allu
gweithio'n lân ac yn daclus; yn ddelfrydol bydd gennych brofiad o lanhau
masnachol, fodd bynnag, brwdfrydedd a pharodrwydd i weithio'n galed yw'r cyfan
sydd ei angen gan y gellir darparu hyfforddiant llawn.
Sgiliau
Craidd:
Bydd oriau
gwaith hyd at 40 awr yr wythnos. Byddai'r ymgeisydd delfrydol yn gallu gweithio
sifftiau unrhyw ddiwrnod o'r wythnos, gan gynnwys penwythnosau.
Bydd angen
gweithio ar ben eich hun ar gyfer y swydd hon. Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr
weithio mewn lleoliadau nad ydynt yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus ac
efallai y bydd angen cychwyn sifftiau yn gynnar yn y bore felly mae mynediad at
gludiant preifat a thrwydded yrru llawn yn ddymunol.
Swydd dymhorol yw hon i gychwyn ar unwaith hyd
at ddiwedd fis Hydref 2022. Cyfradd tâl yn cwrdd â bywoliaeth cenedlaethol /
isafswm cyflog ar gyfer oedran. Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swydd hon yr hawl
i weithio yn y DU.