Mae’r Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ddau o’r rheilffyrdd treftadaeth fwyaf poblogaidd y DU a’u lleolwyd ynghanol prydferthwch Eryri. Ystafell De Orsaf Tan y Bwlch ydy ein hystafell lluniaeth wedi ei leoli yn yr orsaf syfrdanol o Dan y Bwlch ynghanol y Parc Cenedlaethol.
Rydym yn edrych am unigolion sydd yn frwdfrydig ac yn gweithio’n galed i ymuno a’n tîm ymroddgar o staff blaen tŷ sy’n gweithio yn Ystafell De Orsaf Tan y Bwlch, Maentwrog. Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys gweini ar gwsmeriaid, trin pres, clirio byrddau a helpu gyda dyletswyddau’r gegin. Mi fuasai profiad o weithio mewn caffi neu fwyty yn fantais ond ddim yn hanfodol gan fydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Sgiliau Craidd:
Mi fuasai’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais yn ogystal â gwybodaeth o’r rheilffyrdd a’u teithwyr; a’r ardal leol. Gan fod yr orsaf mewn lleoliad ynysig mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr defnydd o gludiant preifat i gludo nhw nôl ac ymlaen o’u gwaith.
Fe ddylai’r ymgeiswyr fod yn hyblyg ac yn gallu gweithio shifftiau ar ddyddiau’r wythnos a’r penwythnos. Bydd contract sero oriau yn cael ei gynnig yn y lle cyntaf, bydd oriau gwaith yn amrywio ac o bosib bydd modd eu haddasu i’r ymgeisydd.
Swydd dymhorol yw hon i ddechrau cyn gynted â phosibl hyd at ddiwedd mis Hydref 2022, gyda'r opsiwn i ymestyn os yw amodau yn caniatau. Cyfradd y cyflog £9.50 yr awr ar gyfer ymgeiswyr 23 oed neu hŷn, yn fwy na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i rai o dan 23 oed.
Mae’n rhaid bod ymgeiswyr i’r swydd yma gyda’r hawl i weithio yn y DU.