Gweithiwr Prosiect Rhan Amser (Pobl agored i niwed / Iechyd Meddwl / Camddefnyddio Sylweddau)
Gweithio 21 awr yr wythnos, dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau.
Mae Tai Gogledd Cymru yn fenter gymdeithasol lwyddiannus sy’n darparu cartrefi a chyflenwi gwasanaethau i dros 2,700 o gartrefi ar draws Gogledd Cymru. Er bod ein sefydliad yn tyfu'n gyflym, mae ein gweledigaeth a'n gwerthoedd bob amser wedi ymwneud â mwy na dim ond brics a morter. Rydym yn arweinydd yn y farchnad ranbarthol mewn darparu tai a gwasanaethau i bobl sy’n agored i niwed, ac mae ein tenantiaid wrth wraidd popeth a wnawn.
Mae ein tîm o tua 170 o unigolion yn golygu llawer i ni hefyd. Rydym yn falch o ddweud ein bod ni'n Fuddsoddwyr mewn Pobl Safon Aur, yn dyst i'n brwdfrydedd dros ofalu am ein cydweithwyr. Mae ein Strategaeth Pobl yn canolbwyntio ar greu amgylchedd lle mae ein pobl yn falch o weithio mewn lle maen nhw eisiau bod, yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial, rhoi eu gorau, a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad.
Mae ein Hostel Noddfa ym Mae Colwyn yn darparu tai â chymorth dros dro i bobl sy’n agored i niwed, gan greu cynlluniau cymorth yn seiliedig ar anghenion unigol wrth eu helpu i ddod o hyd i rywle mwy parhaol i fyw.
Y Rôl – Gweithiwr Prosiect
Yn gyfrifol i a gyda chefnogaeth y Rheolwr yn Hostel Noddfa, byddwch yn gweithio'n agos gyda phreswylwyr wrth i chi ddarparu cefnogaeth / rheoli tai, gan ddrafftio cynlluniau cymorth ysgrifenedig i bob unigolyn weithio tuag atynt. Byddwch yn cyflawni hyn trwy:
Y Pecyn
Byddwch yn gweithio 21 awr yr wythnos, ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau, naill ai 9yb i 5yp neu 10yb i 6yp.
Ein Gofynion – Gweithiwr Prosiect
Yma yn Tai Gogledd Cymru, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r swydd yn gofyn am ddatgeliad DBS lefel uwch.
Dyddiad cau: Dydd Llun 10 Mehefin 2022
Dyddiad cyfweld: Dydd Gwener 17 Mehefin 2022
Drwy ddewis 'wneud cais', byddwch yn cael eich ailgyfeirio at gwefan Tai Gogledd Cymru, lle gallwch weld proffil llawn y rôl a gwneud cais ar-lein.
Mae ceisiadau ar gyfer y swydd Gweithiwr Prosiect hon i’w gyflwyno ar-lein, ac ni chaniateir unrhyw alwadau na CVs gan asiantaethau.