Yma yn Swyddi yng Ngogledd Cymru, rydym yn frwd iawn dros ein cornel ni o'r byd - dyna pam rydym yn ymdrechu i ddod â'r swyddi diweddaraf gan rai o gyflogwyr blaenllaw'r rhanbarth, yn ogystal ag erthyglau ar gyngor gyrfaol, canllawiau lleoliad ac adnoddau defnyddiol sydd wedi'u teilwra i'ch helpu wrth i chi chwilio am eich swydd berffaith yng Ngogledd Cymru.
Mae yma olygfeydd godidog a phrydferth, cnydau mynyddig a thywod euraidd a byd sy'n llawn anturiaethau awyr agored a chwedlau hynafol ymhob twll a chornel – rhai yn unig o'r rhesymau niferus pam fod Gogledd Cymru'n le gwych i fyw a gweithio.
P'un ai ydych chi'n byw yma ar hyn o bryd, yn edrych i adleoli, neu'n ystyried teithio'n ddyddiol i Ogledd Cymru, rydym yn hysbysebu amrywiaeth o swyddi ledled y rhanbarth, o swyddi lefel mynediad i swyddi gweithredol a hynny ar draws sbectrwm eang o ddiwydiannau. Mae gennym swyddi yn y maes twristiaeth a lletygarwch, gwasanaethau manwerthu a phroffesiynol, gweithgynhyrchu, peirianneg ac adeiladu. Byddwn yn sicrhau na fyddwch yn colli allan ar y cyfleoedd gwaith mwyaf cyffrous.
Mae dod o hyd i'ch swydd berffaith yng Ngogledd Cymru newydd ddod yn haws! Beth ydych chi'n aros amdano? Dechreuwch eich chwiliad swydd yng Ngogledd Cymru heddiw
Cofrestrwch i dderbyn ein swyddi diweddaraf yng Ngogledd Cymru trwy e-bost